About Us Amdanom ni
Croeso i wefan Ysgol Gymraeg Gwaun y Nant.
Ein nod yw darparu gwybodaeth ynglyn â'r ysgol ar gyfer y rhieni a'r gymuned er mwyn meithrin cysylltiadau cryf. Ceisia'r ysgol gynnig y safon uchaf o addysg a gofal i bob unigolyn.
Saif yr ysgol ar ochr ddwyreiniol tref Y Barri ac mae'n gwasanaethu ardaloedd Gibbonsdown, Tregatwg, Palmerstown, Pencoetre a'r Gwenfo. Agorwyd yr ysgol ar ei safle presennol yn y flwyddyn 2001 ar ôl cyfnod ar safle Ysgol Sant Curig.
Dros y blynyddoedd tyfodd yr ysgol wrth i'r galw am addysg Gymraeg gynyddu. Mae canran uchel iawn o'n rhieni yn ddi-gymraeg ond yn danfon eu plant atom wrth iddynt weld manteision dwyieithrwydd. Gweithiwn yn agos gyda'n rhieni fel eu bont yn chwarae rhan llawn yn addysg eu plant.
Gobeithio y byddwch yn ystyried y wefan yn ddefnyddiol. Hoffem dderbyn unrhyw sylwadau ynglyn â'r wefan ac unrhyw awgrymiadau yr hoffech eu cynnig.