PTFACRHA

Annwyl Rieni/Warcheidwyr

Croeso! Mae’r gymdeithas rieni, CRhAG (Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Gwaun y Nant), yn llawn cyffro ar ddechrau blwyddyn brysur arall yn yr ysgol. Mae nifer o weithgareddau eisoes wedi eu paratoi ac edrychwn ymlaen at gael gweithio gyda chi gyd!. Rydym yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth gyson. Mae croeso i chi gysylltu â mi unrhyw bryd

Mae nifer o weithgareddau wedi’u cynllunio ar gyfer y flwyddyn a chroesawn eich mewnbwn. Rydym wastad yn chwilio am gefnogaeth ac aelodau newydd. Rwy’n gwybod gallwn ddibynnu arnoch eleni unwaith eto i gefnogi ein gweithgareddau er mwyn ychwanegu at gyfleoedd dysgu ac adnoddau i’n plant

Er mwyn i CRhAG fod yn effeithiol mae cydweithrediad pawb yn hanfodol. Rydym am i bawb gael llais ac i gymryd rhan. Gwerthfawrogwn  lais, syniadau, amser a thalentau pawb boed hynny am chwarter awr neu ychydig oriau.

Trwy wirfoddoli yn yr Ysgol mae cyfle i chi gwrdd â rhieni eraill, gwneud gwir wahaniaeth i’r plant yn yr Ysgol yn ogystal â dangos i’ch plenty pa mor bwysig yw’r Ysgol. Trwy wirfoddoli gallwn addo hwyl a sbri a’r cyfle i wneud gwahaniaeth i’r holl ddisgyblion.